Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (196)v2 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
|
3 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5497 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod nifer y busnesau bach a chanddynt werth ardrethol o hyd at £12,000 yng Nghymru bellach yn 73% o bob busnes;
2. Yn cydnabod y bydd gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb llawn am ardrethi busnes pan fydd Bil Cymru wedi cael Cydsyniad Brenhinol;
3. Yn cydnabod bod cydbwysedd rhwng manwerthwyr y trydydd sector a manwerthwyr annibynnol yn hanfodol i gynnal y stryd fawr;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Ystyried manteision rhannu lluosydd Cymru yn fusnesau bach a mawr i sicrhau bod Cymru yn unol â'r Alban a Lloegr;
b) Adfywio rhyddhad caledi, sy'n hanfodol i fusnesau bach.
Mae Bil Cymru ar gael yn:
https://www.gov.uk/government/publications/wales-bill
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 4a) dileu popeth ar ôl ‘fusnesau bach a mawr’.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
Ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach i gwmpasu pob busnes â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
Edrych ar ffyrdd o wneud ardrethi busnes yn fwy ymatebol i newidiadau yn amodau’r farchnad, er mwyn sicrhau bod gwerthoedd ardrethol yn adlewyrchu prisiadau cyfredol yn well.
|
4 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5498 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw am ddiddymu'r dreth ystafell wely.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod problem tanfeddiannaeth mewn tai cymdeithasol.
2. Yn cydnabod gwaith y Democratiaid Rhyddfrydol yn Llywodraeth y DU o ran sicrhau Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn i awdurdodau lleol er mwyn helpu i liniaru effaith diwygiadau mewn achosion teilwng unigol.
3. Yn croesawu'r cyhoeddiad diweddar y bydd y cap ar y swm y gall cynghorau ei wario ar Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn cael ei godi i roi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol.
4. Yn mynegi pryder ynghylch y rhwystrau a roddwyd yn eu lle gan gynghorau lleol i'r rhai sy'n ceisio gwneud cais am Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn a'u methiant i ddyrannu'r holl adnoddau a roddwyd iddynt at y diben hwn mewn da bryd.
5. Yn croesawu'r cynnig a basiwyd yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol ym mis Medi 2013 yn galw am werthusiad ar unwaith o effaith y cymhorthdal ystafell sbâr, ac yn aros am ganlyniad yr adolygiad annibynnol o'r polisi a gomisiynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sydd ar y gweill.
6. Yn credu y dylai tynnu'r cymhorthdal ystafell sbâr yn ôl gael ei liniaru drwy eithrio oedolion anabl a phlant anabl y mae angen gofalwr arnynt a'i gymhwyso i denantiaethau newydd y sector cyhoeddus yn unig.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) bod prinder tai cymdeithasol ledled y DU, ac yng Nghymru’n arbennig, a bod cael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr yn ymateb dilynol i’r cynnydd mewn rhestrau aros, gorlenwi a digartrefedd cudd sy’n mynd ochr yn ochr â phroblem tanfeddiannu mewn tai cymdeithasol;
b) mai Llywodraeth Lafur y DU, ym mis Ebrill 2008, aeth ati i gael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr am y tro cyntaf ar gyfer y rheini a oedd yn derbyn budd-dal tai yn y sector rhentu preifat;
c) bod arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU wedi cael ei ddarparu ar gyfer Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn o 2013/14 ymlaen gan ganiatáu i awdurdodau lleol dargedu’r rheini sydd ei angen fwyaf;
d) y cyhoeddiad diweddar y bydd y cap ar faint y caiff cynghorau ei wario ar Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn cael ei godi er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol;
e) methiant awdurdodau lleol i ddyrannu’r holl adnoddau a roddwyd iddynt ar gyfer Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn mewn da bryd;
f) yr arweiniad a roddwyd ymlaen llaw i awdurdodau lleol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, sy’n dweud y dylai pobl anabl sy’n byw mewn llety sydd wedi’i addasu’n sylweddol a’r rheini sy’n ddibynnol iawn ar rwydwaith cefnogi lleol gael eu blaenoriaethu ar gyfer taliadau tai yn ôl disgresiwn.
|
5 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) NDM5499 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 'Powering Wales’ Future'.
2. Yn gresynu bod pleidiau ledled y DU sy'n wleidyddol geidwadol yn parhau i wrthod y dystiolaeth lethol sy'n cadarnhau'r newid yn yr hinsawdd.
3. Yn cydnabod y gellir sicrhau dyfodol carbon isel cynaliadwy drwy newid uchelgeisiol o ran sut rydym yn cynhyrchu ynni.
4. Yn cydnabod bod rhwydwaith grid clyfar ac amrywiol yn hanfodol i sicrhau y gellir diwallu ein hanghenion ynni ar gyfer y dyfodol mewn modd dibynadwy a chynaliadwy.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) adolygu Nodyn Cyngor Technegol 8 i ganiatáu diweddariadau sy'n adlewyrchu gwelliannau technolegol a datblygu Ardaloedd Chwilio Strategol newydd, i annog prosiectau newydd a lleihau crynodiadau presennol;
b) gweithio gyda diwydiant i ddatblygu cynlluniau budd cymunedol rhanbarthol, er mwyn i gymunedau ar hyd coridorau cludiant a grid gael budd o'r buddsoddiadau economaidd sydd ynghlwm wrth ynni adnewyddadwy;
c) sicrhau manteision economaidd mwyaf posibl ynni adnewyddadwy drwy weithio gyda datblygwyr a sefydliadau addysgol i ehangu cadwyni cyflenwi a chanolfannau rhagoriaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beirianwyr a phrentisiaid;
d) archwilio datblygu Canolfannau Ynni Morol i ddarparu amgylchedd diogel i weithgynhyrchu a phrofi technolegau morol sy'n dod i'r amlwg i helpu Cymru i gael mantais gystadleuol;
e) canolbwyntio cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer ymchwil i dechnoleg storio drydanol ar raddfa fawr fel batris;
f) archwilio potensial datblygu cyfleusterau storio pwmp newydd er mwyn gallu storio mwy o ynni at ddefnydd yn ystod oriau brig a sicrhau cyflenwad sefydlog o drydan carbon isel; a
g) datblygu cyngor technegol newydd ar gyfer hollti hydrolig, gan gynnwys profion tyllu, i sicrhau bod diogelwch a diogelu'r amgylchedd yn cyrraedd y safonau uchaf.
Gellir gweld adroddiad Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 'Powering Wales’ Future' yma: http://welshlibdems.org.uk/en/document/energy-policy-paper-2014.pdf
Mae Nodyn Cyngor Technegol 8 ar gael yn:
http://cymru.gov.uk/docs/desh/publications/050701techical-advice-note-8-en.pdf
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le “Yn nodi bod pobl ym mhob rhan o gymdeithas a fydd yn dal i gwestiynu'r rhesymau sydd wrth wraidd newidiadau yn ein hinsawdd fyd-eang”.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 2, dileu ‘pleidiau ledled y DU sy'n wleidyddol geidwadol’ a rhoi ‘Llywodraeth y DU’ yn ei le.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y cyfyngiadau a osodwyd ar gymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym maes ynni.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys is-bwynt 5b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
archwilio potensial sefydlu cwmni ynni cyhoeddus, hyd braich, nid er elw i'w ddosbarthu;
Gwelliant 5 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu is-bwynt 5g
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
cyllido cynllun ôl-ffitio ledled y wlad i leihau'r defnydd o ynni a sicrhau biliau ynni is i ddefnyddwyr;
Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
cyhoeddi unrhyw ymchwil i ddichonoldeb adeiladu cysylltiad grid rhwng gogledd a de Cymru;
Gwelliant 8 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi amrywiol fathau o ynni adnewyddadwy, a buddsoddi ynddynt, er mwyn cyflawni’r amcanion allweddol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd ac yn nodi bod digon o geisiadau ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir ar y gweill yn y system gynllunio i fodloni targedau ynni adnewyddadwy’r DU
Gwelliant 9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai’r Bil Cynllunio roi mwy o rym i gymunedau lleol dderbyn neu wrthod cynlluniau ynni adnewyddadwy penodol yn ôl yr hyn sydd orau i’w hardal leol. |
Cyfnod Pleidleisio |
6 Dadl Fer (30 munud) NDM5496 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Cost bod yn dlawd
Sut y mae benthycwyr llog uchel a darparwyr eraill yn gwneud i bobl dlawd dalu mwy.
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Mai 2014